Mae gan Gymru ddiwydiant dylunio creadigol ac amrywiol ac mae Cyfeiriadur Dylunio Cymru yn ffordd effeithlon o gael manylion am ddim am yr arbenigwyr dylunio sydd ar gael yma.

Ar gyfer pob busnes dylunio mae’r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth gyswllt lawn, gyda manylion eu harbenigedd dylunio a phortffolio dewisol o waith diweddar. Wedi’i reoli gan Dylunio Cymru, adolygir Cyfeiriadur Dylunio Cymru yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y wybodaeth yn gyfoes.
CYMORTH PELLACH GAN DYLUNIO CYMRU

Ariennir Dylunio Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu gwasanaeth ymgynghorol annibynnol ar ddylunio yn rhad ac am ddim i’r diwydiant yng Nghymru. Gyda dros ddeng mlynedd o brofiad o ran rhoi cymorth dylunio i’r diwydiant mae gan Dylunio Cymru gyfoeth o wybodaeth ar y ffordd orau o reoli a mynd i’r afael â materion dylunio yn eich cwmni.

Os ydych yn fusnes yng Nghymru ac yr hoffech gymorth i wneud defnydd o’r arbenigedd dylunio sydd ar gael yng Nghymru neu os hoffech drafod sut i reoli dylunio yn eich cwmni yna ewch i brif wefan Dylunio Cymru neu cysylltwch â ni yn uniongyrchol.

ymholiadau@dyluniocymru.org neu www.dyluniocymru.org

© 2005 - 2006 DYLUNIO CYMRU | telerau ac amodau | admin@designdirectorywales.org
<